Rhif y ddeiseb:   P-06-1247

Teitl y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Mae symud i wythnos waith pedwar diwrnod yn rhoi hwb i gynhyrchiant a lles gweithwyr.

Ar ôl treialon llwyddiannus o wythnos waith fyrrach yng Ngwlad yr Iâ – heb ostyngiad mewn cyflogau – mae llywodraethau yn yr Alban, Iwerddon a Sbaen i gyd yn datblygu eu cynlluniau peilot eu hunain ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod, a fydd yn dechrau'r flwyddyn nesaf. Mae gwaith o ddifrif yn cael ei wneud i symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad Belg, Seland Newydd, yr Almaen a Siapan hefyd.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.


1.        Cefndir

Yr wythnos waith pum niwrnod safonol fu’r norm yn y Deyrnas Unedig ers hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Fodd bynnag, bu galwadau yn ddiweddar i newid y patrwm hwn a chwtogi ar hyd yr wythnos waith. Caiff wythnos waith fyrrach ei diffinio gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Autonomy fel “lleihad yn yr oriau wythnosol a dreulir yn gweithio, heb ddim colled gysylltiol mewn cyflog”. Yn aml, mae ymgyrchwyr wedi cynnig gweithredu’r newid hwn ar ffurf 'wythnos waith pedwar diwrnod', sy'n lleihau nifer yr oriau gwaith wythnosol i tua 32 awr yr wythnos.

Mae dadleuon wedi'u gwneud o blaid ac yn erbyn symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod, gydag ymgyrchwyr yn awgrymu y byddai wythnos waith pedwar diwrnod o fudd i weithwyr, cyflogwyr, yr economi, cymdeithas a'r amgylchedd. Fodd bynnag, mae pryderon posibl wedi’u mynegi ynghylch costau gweithredu’r polisi hwn, yr heriau y byddai diwydiannau penodol yn eu hwynebu wrth symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod, a’r cwestiwn a fyddai cynhyrchiant yn cynyddu yn y ffordd a ragwelir.

2.     Safbwynt Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Gweinidog yr Economi at y Pwyllgor ar 28 Ionawr, gan nodi bod Llywodraeth Cymru yn “cydnabod manteision posibl mewn wythnos waith fyrrach ac rydym yn awyddus i weld canlyniad cynlluniau peilot a gynlluniwyd ar gyfer yr Alban ac Iwerddon yn benodol”. Aeth y Gweinidog yn ei flaen i ddweud:

Rydym am ystyried sut y bydd y cynlluniau peilot hyn yn cael eu cyflawni, eu heffaith a’u canlyniadau. Byddwn am iddynt ddarparu tystiolaeth gyson o sut y gall wythnos waith pedwar diwrnod wella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ein helpu i leihau allyriadau carbon a chefnogi cydraddoldeb rhywiol, gan hefyd osgoi canlyniadau anfwriadol.

Ar 19 Ionawr, atebodd Gweinidog yr Economi gwestiynau gan Luke Fletcher a Jack Sargeant yn y Cyfarfod Llawn, a rhoddodd fanylion pellach am safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch treialu wythnos waith pedwar diwrnod. Gwnaeth y sylwadau a ganlyn:

…mae gennym ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd. Nid oes gennym unrhyw beth i'w golli drwy adolygu'r dystiolaeth mewn rhannau eraill o'r byd a gweld pa mor gymaradwy ydyw. Mae gennym heriau bob amser ynglŷn â sut rydym yn blaenoriaethu adnoddau cyfyngedig y Llywodraeth, ac yn cynnal treialon sy’n ystyrlon ac yn werth chweil, sy'n gallu dweud rhywbeth wrthym am yr hyn y gellid ei gymhwyso yn y dyfodol, a pha mor eang y gallai’r cyfle hwnnw fod hefyd.

Os yw busnesau Cymru am dreialu wythnos waith pedwar diwrnod, aeth y Gweinidog yn ei flaen i nodi y byddai gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn siarad â nhw i ddysgu mwy am sut y byddai hynny’n cyd-fynd â gwaith presennol Llywodraeth Cymru, pa gymorth posibl y gallai ei ddarparu, a sut y gallai ddysgu o unrhyw dreialon a gynhelir.

3.     Ystyriaeth gan Senedd Cymru

Ar 22 Medi 2021, cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar wythnos waith pedwar diwrnod. Cafodd y cynnig diwygiedig a ganlyn ei basio:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y newid mewn arferion gwaith o ganlyniad i bandemig COVID-19 a bod llawer o fanteision lles a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wedi dod o ganlyniad i hyn.

2. Yn credu bod angen diwygio arferion gwaith i ymateb i heriau'r chwyldro awtomeiddio.

3. Yn nodi â diddordeb bod llywodraethau yn yr Alban, Sbaen ac Iwerddon yn bwriadu cynnal cynlluniau peilot ar lefel genedlaethol ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.

4. Yn cydnabod bod cynlluniau peilot o wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi arwain at lawer o weithwyr yn symud i oriau byrrach heb ostyngiad mewn cyflog.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y cynnydd a wneir drwy gynlluniau peilot mewn gwledydd eraill ac archwilio’r gwersi y gall Cymru eu dysgu.

4.     Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol/Autonomy

Ar 14 Chwefror, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Autonomy adroddiad ar wythnos waith fyrrach. Mae’r adroddiad hwn yn nodi nifer o ddadleuon o blaid cyflwyno wythnos waith fyrrach, gan gynnwys:

§    ailddosbarthu gwaith mewn ffordd decach, drwy ymdrin â gorweithio a thangyflogaeth a lleihau cyflogaeth ansicr;

§    ymdrin ag anghydraddoldeb o ran cyfrifoldebau gofalu;

§    cefnogi cydlyniant cymunedol drwy roi mwy o amser rhydd i weithwyr gyfrannu at eu cymunedau;

§    gwella iechyd drwy leihau lefelau straen a gwella dangosyddion eraill;

§    gostwng allyriadau carbon drwy leihau’r angen i deithio i’r gwaith; a

§    helpu Cymru i addasu i newidiadau yn y farchnad lafur o ganlyniad i awtomeiddio.

Mae arolwg a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith hwn yn dangos y byddai 62 y cant o ymatebwyr yn ddelfrydol yn hoffi gweithio pedwar diwrnod yr wythnos neu lai, a bod 57 y cant yn cefnogi camau gan Lywodraeth Cymru i dreialu cynllun i symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu rhwystrau posibl a fyddai’n atal Llywodraeth Cymru rhag cefnogi symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod. Mae cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol yn faterion sydd wedi'u cadw’n ôl o dan y setliad datganoli presennol (ac eithrio materion sy'n ymwneud â Deddf Sector Amaethyddiaeth (Cymru) 2014), yn yr un modd â rheoliadau ynghylch oriau gwaith. Hefyd, byddai rhoi cymhorthdal i gyd-fynd â chamau i fabwysiadu wythnos waith pedwar diwrnod yn fwy eang yn effeithio’n sylweddol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gyda’r adroddiad yn nodi y byddai “unrhyw weithredu ar fyrder ac ar raddfa eang yn gofyn am gynllun cymhorthdal gan y llywodraeth i dalu costau’r cyflogwyr hynny fyddai angen cael staff newydd i leihau unrhyw effeithiau negyddol ar allbwn o gael llai o oriau llafur”.

Mae Atodiad A i’r adroddiad yn trafod rhai o'r gwrthwynebiadau cyffredin i wythnos waith fyrrach.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd nifer o gamau i gefnogi wythnos waith fyrrach o fewn y cyfyngiadau hyn, gan gynnwys:

§    treialu wythnos waith fyrrach o fewn y sector cyhoeddus, naill ai fel cynllun peilot ar raddfa fawr neu gynllun a gyflwynir yn raddol;

§    defnyddio prosesau caffael yn y sector cyhoeddus i annog y sector preifat i fabwysiadu wythnos waith pedwar diwrnod/wythnos waith fyrrach;

§    cyflwyno cynllun sy’n cynnig achrediad i gwmnïau sector preifat sy’n lleihau oriau gwaith gweithwyr; a

§    chydweithio ag undebau llafur a’u grymuso i negodi lleihad mewn oriau gwaith.

5.    Datblygiadau y tu hwnt i Gymru

Efallai mai yng Ngwlad yr Iâ y ceir yr enghraifft fwyaf adnabyddus o fabwysiadu wythnos waith fyrrach (nid wythnos waith pedwar diwrnod o reidrwydd).. Yn draddodiadol, roedd gan Wlad yr Iâ oriau gwaith hir a chydbwysedd gymharol wael rhwng bywyd a gwaith, ac fe ddadleuwyd bod y ffactorau hyn yn achosi cynhyrchiant cymharol isel. I ddechrau, cynhaliodd Llywodraeth Gwlad yr Iâ (rhwng 2015 a 2019) a Chyngor Dinas Reykjavik (rhwng 2017 a 2021) dreialon ar wahân lle symudodd gweithwyr o weithio wythnos 40 awr i wythnos 35-36 awr am yr un cyflog. Mae dau sefydliad sy'n annog cyflwyno wythnos waith fyrrach, sef Autonomy, melin drafod yn y DU, a'r sefydliad Alda o Wlad yr Iâ wedi cyhoeddi adroddiad sy’n nodi canfyddiadau allweddol y treialon hyn. Canfuwyd bod lleihau oriau gwaith yn gwella llesiant gweithwyr ac yn eu helpu i daro cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith, yn ogystal â chynnal neu wella cynhyrchiant a safon y gwasanaethau a ddarperir. Ers i'r treialon gael eu cynnal, mae 86 y cant o weithwyr Gwlad yr Iâ naill ai'n cael eu cyflogi ar gontractau sydd ag oriau gwaith byrrach neu ar gontractau sy'n rhoi'r hawl iddynt weithio oriau byrrach. Er bod yr unigolion a oedd yn gweithio oriau safonol wedi gweld gostyngiadau cymharol fach yn eu horiau gwaith, gwelodd gweithwyr shifft yn y sector cyhoeddus, fel nyrsys, ostyngiad mwy yn nifer yr oriau yr oedd disgwyl iddynt eu gweithio.

Mae yna enghreifftiau eraill o lywodraethau yn ariannu cynlluniau peilot i dreialu wythnosau gwaith byrrach. Ar hyn o bryd, maeLlywodraeth yr Alban yn llunio cynllun peilot i helpu busnesau i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod, ac mae ei rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu cronfa gwerth £10 miliwn i wneud hyn. Mae Llywodraeth Sbaen wrthi’nsefydlu cynllun peilot gwirfoddol a fydd yn rhoi cymorthdaliadau i fusnesau gyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod heb dorri cyflog eu staff.

Mae sefydliadau anllywodraethol hefyd wedi sefydlu cynlluniau peilot i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod, gyda 4 Day Week Global yn sefydlu nifer o gynlluniau peilot ar hyn o bryd mewn gwahanol wledydd. Ar adeg ysgrifennu’r papur briffio hwn, disgwylir i Four Day Week Ireland gyflwyno rhaglen beilot wythnos waith pedwar diwrnod yn Iwerddon am 6 mis o fis Chwefror 2022. Caiff y rhaglen hon ei rhedeg gan sefydliadau sy’n hyrwyddo wythnos waith pedwar diwrnod, a bydd y cynllun peilot yn cynnig cymorth i’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan ynddo, yn ogystal â hyfforddiant, mentora a mynediad at ymchwil academaidd ac arbenigwyr mewn meysydd perthnasol. Fel rhan o’r cynllun peilot, mae Llywodraeth Iwerddon yn ariannu gwaith ymchwil ar effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol wythnos waith pedwar diwrnod, a bydd yn ystyried yr effeithiau ar gyflogwyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot. Bydd cynllun peilot tebyg ar waith yn y DUam chwe mis o fis Mehefin 2022, wedi’i gynnal gan Four Day Week Global ar y cyd ag ymchwilwyr academaidd, ymgyrch 4 Day Week UK a’r felin drafod Autonomy. 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.